Camau gweithredu i gefnogi cadw’r gweithlu yng Nghymru
Y mis hwn, mae ein his-lywydd dros Gymru, Hilary Williams, yn blogio am bolisi newydd i fynd i’r afael â diogelwch rhywiol a bwlio mewn meddygaeth, cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru, a chamau gweithredu i fynd i’r afael â chadw ein gweithlu.
Un o’r pethau cyntaf a wnaethom wrth i’r Athro Olwen Williams drosglwyddo’r awenau o fod yn is-lywydd dros Gymru i mi, oedd ysgrifennu llythyr i fynegi ein pryderon sylweddol am ddiogelwch rhywiol a bwlio mewn meddygaeth. Dywedodd ein meddygon wrthym nad oeddent yn teimlo’n ddiogel yn codi eu llais am hyn, a hyd yn oed pan oeddent yn dweud, nid oedd dim yn digwydd. Un o’r heriau mwyaf oedd bod hyfforddai’n gallu codi pryderon gydag AaGIC gyda thystiolaeth glir o niwed, ond bod y sawl sy’n cyflawni yn cael ei gyflogi gan sefydliad ar wahân a bod y person hwnnw yn ddiogel, i bob golwg, rhag y canlyniadau. Ysgrifennu'r llythyr a denu sylw'r cyfryngau yw'r cam cyntaf, ond mewn gwirionedd, nid yw hyn, ar ei ben ei hun, yn cyflawni newid - mae newid yn gofyn am waith caled a dyfalbarhad.
Felly, roeddwn i eisiau diolch i Dr Martin Edwards (Cydwasanaethau GIG Cymru) am weithio gydag AaGIC, Coleg Brenhinol y Meddygon, a byrddau iechyd i gyflwyno polisi newydd cryf, ac ymrwymiad pendant i newid. Rydw i wedi gweld y polisi ac mae’n gadarn, a gobeithio y bydd staff y GIG yn teimlo’n ddiogel i godi llais yn y dyfodol gyda chanlyniadau priodol i’r sawl sy’n cyflawni. Mi fyddwn ni’n cadw llygaid barcud ar hyn, ond diolch yn fawr i’r menywod a fu’n ddigon dewr i rannu eu profiadau.
Cymarebau cystadleuaeth ar gyfer meddygon preswyl
Mae’n ymddangos bod y broses o gynllunio’r gweithlu ar gyfer meddygon yn y DU yn draed moch. Yn 2024, roedd y ceisiadau ar gyfer Hyfforddiant Meddygaeth Fewnol (IMT) 73% yn fwy na nifer y swyddi a oedd ar gael. Mae hyn yn golygu mai dim ond tua un cais o bob pedwar fydd yn arwain at swydd sy’n caniatáu i feddygon barhau â’u hyfforddiant meddygol ar raglen genedlaethol. Ym mis Chwefror, fe wnaethom gyhoeddi ‘Left in the lurch: a position statement on the recruitment crisis facing resident doctors’ sy’n galw am weithredu ar frys i helpu meddygon sylfaen i gael swyddi hyfforddi yn y GIG. Mae hyn yn arbennig o rwystredig yng Nghymru lle rydym ni wedi cael problemau gyda bylchau yn y rotas a gweithwyr locwm ers amser hir, ac mae pob un ohonom yn gwybod bod gweithlu sefydlog ac ymroddedig yn llawer gwell ar gyfer gofal cleifion. Mae’n anodd peidio â theimlo’n eithriadol o rwystredig am y diffyg cysylltiad rhwng cynllunio’r gweithlu a’r anghenion clinigol sydd heb eu diwallu a’r bylchau yn y gweithlu. Mae’r sefyllfa yn cael ei gwaethygu wrth ariannu gwasanaethau allgymorth tymor byr i ddelio â’r ‘tagfeydd’ clinigol er enghraifft, ym maes endosgopi, ond diffyg buddsoddiad strategol a datblygu cynllun gweithlu tymor hir.
Dros y ffin, yn dilyn newyddion bod GIG Lloegr i gael ei ddiddymu, mae llawer ohonom yn gofyn beth y gallai hyn ei olygu i wasanaeth iechyd Cymru. A fydd hyn yn effeithio ar y cyllid a gawn? (mae fformiwla Barnett ar gyfer Cymru yn seiliedig ar y swm a roddir i adrannau’r llywodraeth gan y Trysorlys yn Lloegr). Pa effaith allai hyn ei chael ar yr adolygiad o hyfforddiant meddygol i raddedigion? Mae hyn yn cael ei arwain gan uwch swyddogion yn Lloegr, ond gwyddom y bydd cydweithwyr yn llywodraeth Cymru ac AaGIC yn gwylio’r datblygiadau gyda diddordeb mawr. Yn ddiweddar, fe wnaeth cyd-gadeiryddion ein Pwyllgor Meddygon Preswyl ymuno â chadeirydd ein Rhwydwaith Meddygon Sefydliad Myfyrwyr i alw ar lywodraeth y DU i amlinellu cynlluniau ar gyfer gwariant staff y GIG a chynllunio’r gweithlu yn y tymor hir, ac er bod y GIG yng Nghymru yn annibynnol wrth gwrs, gall y penderfyniadau a wneir yn San Steffan gael effaith bellgyrhaeddol. Cadwch eich llygaid ar agor.
Rydym hefyd yn gwybod bod Cymru’n dal i gael trafferth gyda chadw’r gweithlu. Dangosodd adroddiad gan Archwilio Cymru ym mis Chwefror, o’r 8,180 o feddygon sydd ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar hyn o bryd ac a oedd wedi’u hyfforddi’n wreiddiol yng Nghymru, dim ond 42.8% (3,505) sydd wedi aros yng Nghymru. Roedd yn wych cael ein cyfweld gan ITV Cymru ar y mater hwn, a bydd hyn yn ffocws allweddol i’n hymgyrch yn 2025.
Cynllun gweithlu hirdymor a gwell ar gyfer y GIG: ein neges allweddol ar gyfer Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru
Mae buddsoddi yn y gweithlu a’i gadw yn flaenoriaethau yn ein briff dros dro ar ein gofynion maniffesto wrth baratoi ar gyfer cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru a Senedd 2026. Fe wnes i godi pwynt ynghylch pwysigrwydd cadw’r gweithlu (a’r materion ehangach sy’n wynebu ein meddygon) ledled Cymru gyda Gweinidog Iechyd yr wrthblaid ar gyfer Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor. Yr unig ffordd o wella canlyniadau gofal iechyd yng Nghymru yw buddsoddi’n briodol mewn gweithlu arbenigol sydd wedi’i hyfforddi’n dda.
Yn y gynhadledd, buom hefyd yn cymryd rhan yn y trafodaethau ymylol a drefnwyd gan Gynghrair Iechyd a Lles dan arweiniad Cydffederasiwn y GIG. Diolch i aelodau’r Senedd a ddaeth i glywed am waith Coleg Brenhinol y Meddygon. Bydd ein maniffesto llawn ar gael ym mis Mehefin, ac rydym ni’n edrych ymlaen at gael cyfarfodydd mwy cynhyrchiol gydag Aelodau o’r Senedd o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol eleni.
